R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
1. Elin Jones (Ceredigion): Pa drefniadau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu gwneud ar gyfer y pedwar y cant o bobl na fydd yn derbyn band eang cyflym ffibr? OAQ(4)0418(EST)W
2. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa fanteision economaidd amcangyfrifedig y mae digwyddiadau mawr yn eu sicrhau i Gymru? OAQ(4)0416 (EST)
3.William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau'r cyfleoedd economaidd mwyaf posibl sy'n codi o Uwchgynhadledd NATO, ar gyfer hyrwyddo Cymru? OAQ(4)0419(EST)
4. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i gynorthwyo gweithgynhyrchu yn Nhorfaen? OAQ(4)0422(EST)
5. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi a hyrwyddo trafnidiaeth integredig yn Nyffryn Clwyd? OAQ(4)0415(EST)
6. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion Llywodraeth Cymru i ailsefydlu gwasanaeth rheilffordd uniongyrchol rhwng Gogledd Cymru a Lerpwl? OAQ(4)0413(EST)
7. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu'r prosiect Sirolli ym Mhowys? OAQ(4)0423(EST)
8. Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda chynghorau lleol ynglŷn â gweithredu cynllun y bathodyn glas? OAQ(4)0411(EST)
9. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyfleoedd buddsoddi economaidd sydd ar gael drwy gyllid Ewropeaidd? OAQ(4)0420(EST)
10. Russell George (Sir Drefaldwyn):Sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i anghenion busnesau yn Sir Drefaldwyn ar gyfer unedau busnes mwy hyblyg? OAQ(4)0424(EST)
11. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynllun Dinas-Ranbarth Bae Abertawe? OAQ(4)0414(EST)
12. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ynglŷn â'r tasglu ar foderneiddio rhwydwaith rheilffyrdd y gogledd? OAQ(4)0425(EST)W
13. Leighton Andrews (Rhondda): Beth oedd cyfanswm y buddsoddiad gan Groeso Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer tymor 2013-14? OAQ(4)0412(EST)
14. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drydaneiddio'r rheilffyrdd yng Nghymru? OAQ(4)0417(EST)
15. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau ar gyfer hybu twf economaidd? OAQ(4)0421(EST)
Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
1. Mick Antoniw (Pontypridd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ganllawiau Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol ar newidiadau i ddalgylchoedd ysgolion? OAQ(4)0425(ESK)
2. Alun Ffred Jones (Arfon):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am le y celfyddydau o fewn ysgolion? OAQ(4)0424(ESK)W
3. Ann Jones (Dyffryn Clwyd):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â bwlio yn ysgolion Cymru? OAQ(4)0418(ESK)
4. Ann Jones (Dyffryn Clwyd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau addysg uwchradd a ddarperir gan Gyngor Sir Ddinbych? OAQ(4)0419(ESK)
5. Christine Chapman (Cwm Cynon):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo cyfleoedd prentisiaeth i bobl ifanc yng Nghymru? OAQ(4)0422(ESK)
6. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y defnydd o Gymwysterau Galwedigaethol y Cadetiaid yn ysgolion Cymru? OAQ(4)0417(ESK)
7. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y Technocamps yng Nghymru? OAQ(4)0421(ESK)
8. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y system bandio ysgolion? OAQ(4)0420(ESK)W
9. Christine Chapman (Cwm Cynon):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cyfleoedd addysgol i bobl ifanc o Gwm Cynon? OAQ(4)0423(ESK)
10. Leanne Wood (Canol De Cymru):A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei gynlluniau i godi safonau yn yr ystafell ddosbarth? OAQ(4)0431(ESK)
11. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau allweddol ar gyfer addysg yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0415(ESK)
12. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion i gynorthwyo disgyblion sy'n wynebu straen yn ymwneud ag arholiadau? OAQ(4)0427(ESK)
13. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran sicrhau bod yr holl sefydliadau addysg yng Nghymru yn barod ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm newydd ym mis Medi 2015? OAQ(4)0432(ESK)
14. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu addysg ôl-16 yn Nhorfaen? OAQ(4)0426(ESK)
15. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella safonau addysgol yn Sir Drefaldwyn? OAQ(4)0428(ESK)